Llanidloes
Bywyd ysgol
  Dim llyfrau ysgrifennu heb arian  
 

Yn aml iawn roedd yn anodd i rieni ddod o hyd i arian i dalu i’w plant fynd i’r ysgol yn ystod cyfnod Fictoria Er mai dim ond un geiniog (hanner ceiniog heddiw) yr wythnos ar gyfer pob plentyn oedd y gost fel arfer, ychydig iawn o arian sbâr oedd gan lawer o deuluoedd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

 
School diary entry
 

Mae’r darn yma o ddyddiadur Ysgol Llangurig yn 1887 yn dweud:
"...Much more paperwork should be done to make the scholars expert in the use of the pen; but ex. bks. [exercise books] cannot be had without money, and many of the parents will not buy them".

Dwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1889, aeth y tâl yn yr ysgol i fyny o un geiniog yr wythnos i ddwy ar gyfer plant dros pum mlwydd oed. Roedd hyn yn fwy na thebyg yn gwneud y broblem yn waeth ! Gan fod llawer o deuluoedd yn dlawd iawn roedd llawer o blant yn gorfod mynd allan i chwilio am waith pan yn ifanc iawn er mwyn dod ag ychydig o arian i’r teulu oedd gwir ei angen…

O’r ysgol i’r gwaith, 12 oed..

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes