Llanidloes
Bywyd ysgol
Mynd i weini pan yn 12 oed | ||
Roedd yn rhywbeth cyffredin iawn
yn ystod blynyddoedd Fictoria i weld plant yn mynd allan i weithio’n ifanc
iawn, oherwydd roedd unrhyw arian ychwanegol
fyddai’n dod i mewn i deuluoedd tlawd yn aml iawn yn hanfodol i dalu am
fwyd a gwres. Roedd bechgyn ifanc yn cael gwaith ar ffermydd neu mewn ffatrďoedd, melinau neu weithfeydd, a byddai merched yn ‘mynd i weini’. Roedd hyn yn golygu eu bod yn gweithio i’r boneddigion lleol yn eu tai mawr, neu i unrhyw un oedd yn cyflogi gweision, gan mai ychydig iawn o dâl yr oeddynt yn ei dderbyn. Nid oedd gwaith y gweision yn bleserus iawn, gwaith megis glanhau’r llefydd tân, ac yn aml iawn roeddynt yn gorfod dechrau gwaith yn gynnar iawn yn y bore. |
![]() |
Mae’r darn yma yn dod o ddyddiadur
Ysgol Llangurig ar gyfer 1884: Mae’r athro yn dweud yn glir yn y
darn yma mai’n anaml iawn y bydd un o’r merched yma yn dod i’r ysgol,
a’i bod heb fynd ymhellach na’r dosbarth gwaelod ! |
||