Llanidloes
Mapiau Fictoriaidd
  Llandinam yn 1903  
 

Mae’r map a welwch chi nesaf wedi dod o fap Arolwg Ordnans a wnaed yn 1903. Mae’n rhoi darlun i ni o’r gymuned tua diwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria, a gallwn weld fod yna rai newidiadau wedi digwydd yn yr ardal.
Yn gyntaf gallwn weld fod yna ystad fawr newydd wedi’i sefydlu gyda dau dy newydd crand yn sefyll mewn gerddi. I’r Gogledd o’r pentref gallwn weld Plas Dinam a adeiladwyd yn blasty i’r teulu Davies. Yn debyg iawn i hyn, adeiladwyd Bron Eirian ar hyd glan gorllewinol yr afon.

 
  map o Landinam yn 1903  
 

Dyn lleol oedd David Davies a wnaeth ei ffortiwn yn adeiladu rheilffyrdd a chychwyn y pyllau glo yn Ne Cymru. Sefydlwyd ystad Llandinam ac adeiladwyd y tai gyda’r cyfoeth yma. Yn ddiweddarach yn ystod cyfnod Fictoria, roedd llawer o’r bobl leol yn gweithio ar stad Davies neu fel gweision yn y tai mawr.

 
 

Mae yna ddau gapel Methodist ac ysgol yn y pentref. Roedd teulu Davies yn enwog fel cefnogwyr brwd o addysg ac yn caniatáu i’w gerddi gael eu defnyddio yn aml ar gyfer gemau a gweithgareddau lle’r oedd y plant ysgol yn dod at ei gilydd. (Edrychwch ar dudalennau Ysgol Llanidloes).

Llandinam yn 1836..

 
 

Yn ôl i ddewislen map Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes