Llanidloes
Mapiau Fictoriaidd
  Llandinam yn 1836 (a 1859!)
Geirfa
 

Yn debyg iawn i fap Caersws yn 1836, ychwanegwyd y rheilffordd i’r map yma yn ddiweddarach. Nid ydym yn gallu gweld manylion pob adeilad a sut y cawsant eu defnyddio ond gallwn ddysgu llawer o hyd ynglyn â Llandinam yn gynnar yn ystod oes Fictoria.

tirwedd – y siâp a geir ar fap i ddangos pan fo’r tir yn uchel ac yn isel.
 
  !" map of Llandinam in 1836  
 

Mae’r ffordd mae’r bryniau wedi’u lliwio gan y mapiwr yn rhoi syniad da i ni o’r dirwedd. Gallwn weld o hyn fod y pentref wedi tyfu wrth ymyl un o’r prif ffyrdd sy’n mynd ar hyd dyffryn Hafren rhwng bryniau uchel, lle’r oedd yna afon yn croesi.

 
 

Ffordd dyrpeg oedd hon ar ddechrau cyfnod Fictoria pan roedd teithwyr yn gorfod talu toll i’w defnyddio.
Cymuned amaethyddol yw hon gan fwyaf gyda ffermydd mwy o faint ar lawr y dyffryn a ffermydd llai ar y bryniau a thir uchel.

Llandinam yn 1903..

 
 

Yn ôl i ddewislen map Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes