Llanfyllin
Llyn Efyrnwy
  Pan newidiwyd tirwedd Powys gan bobl oes Fictoria  
 

Mae Llyn Efyrnwy yn ddarn hardd iawn o ddwr a grëwyd gan beirianwyr oes Fictoria pan wnaethant adeiladu cronfa enfawr o gerrig ar draws dyffryn yr afon yng ngogledd Sir Drefaldwyn. Wedi ei chwblhau yn 1889, dyma’r gronfa fawr gyntaf i’w hadeiladu o gerrig ym Mhrydain. Crëwyd cronfeydd cynharach trwy wneud cloddiau o bridd.

 

Y gronfa
sydd newydd
ei gorffen yn
Llyn Efyrnwy
yn 1889

Engraving of Lake Vyrnwy
 

Roedd angen Llyn Efyrnwy i ddarparu cronfa storio i gadw dwr yn ddiogel a glân ar gyfer dinas Lerpwl oedd yn tyfu’n eithriadol o gyflym. Roedd llawer o ddinasoedd Prydain yn mynd yn orlawn o weithwyr y ffatrďoedd newydd a melinau’r Chwyldro Diwydiannol. Tyfodd slymiau ofnadwy o amgylch y ffatrďoedd yma, ac roedd gwir angen dwr glân er mwyn lleihau’r peryglon o afiechydon. Hefyd, roedd angen llawer iawn o ddwr ar y ffatrďoedd yma er mwyn gyrru’r peiriannau stęm.
Roedd yna broblemau tebyg iawn ym Mirmingham, a dechreuwyd ar system hyd yn oed yn fwy mawreddog o gronfeydd dwr yng Nghwm Elan ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Gallwch weld mwy am y cronfeydd hyn yn y darn ar Raeadr sydd ar y wefan yma.
Roedd y llyn newydd yn golygu y byddai ffermydd a thai pobl y dyffryn yn cael eu colli o dan y dwr...

Yn ôl i ddewislen Llyn Efyrnwy
.

.