Llanfyllin
Llyn Efyrnwy
  Y ty mawr a’r tai bychain  
 

Yn ogystal â hen bentref Llanwddyn a nifer o ffermydd, roedd rhan uchaf dyffryn Afon Efyrnwy hefyd yn cynnwys Neuadd Eunant HallEunant. Ty mawr oedd hwn ar ystad yn eiddo i Syr Edmund Buckley, aelod o’r bonedd lleol.
Cafodd ei leoli ym mhen uchaf y llyn presennol, ac fel yr adeiladau eraill yn y dyffryn uwchben y gronfa, cafodd ei ddymchwel cyn i’r dyffryn gael ei orlifo â dwr.
Mae’r llun a welwch chi yma o’r ty a gollwyd yn rhoi syniad da o ba mor serth yw ochrau’r dyffryn, oedd yn ei wneud yn lle addas ar gyfer creu llyn newydd trwy adeiladu cronfa Efyrnwy nes i lawr y dyffryn.

Neuadd Eunant
yn Nyffryn
Efyrnwy
Pentref
Llanwddyn
tua 1888

Llanwyddyn village c1888

Mae hwn wedi dod o engrafiad cynnar arall o hen bentref Llanwddyn.
Mynd yn ei flaen aeth bywyd arferol y pentref wrth i’r gronfa gael ei hadeiladu ar draws y dyffryn.

Un o’r pontydd dros Afon Efyrnwy yw’r un a welwch chi ar y dde ar lawr y dyffryn.

Vyrnwy bridge
 

Diflannu wnaeth yr holl olygfeydd sydd i’w gweld ar y dudalen yma am byth o dan ddwr y llyn newydd er mwyn rhoi cyflenwad o ddwr i Lerpwl.

Yn ôl i ddewislen Llyn Efyrnwy
.

.