Llanfyllin a'r cylch
Ennill bywoliaeth
  Crefftwyr: eraill  
 

Roedd Cyfeirlyfr Slater 1858 yn rhoi’r holl grefftau hynny nad oedd yn ffitio’n rhwydd iawn i mewn i gategori yn y rhestr yma o grefftau eraill.
Efallai nad yw hyn yn rhoi rhyw lawer o bwysigrwydd i’r crefftau hynny oedd yn rhoi bywoliaeth i bobl.

Ymysg y rheini oedd yn gwerthu amrywiol bethau oedd y plwmwyr lleol ac addurnwyr a David Williams y plismon lleol.

Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau
sy’n gyntaf
 

Doedd yna ddim plastig i’w gael yn oes Fictoria ac roedd gwydr yn weddol ddrud. Felly roedd llawer iawn o hylif yn cael ei gludo mewn casgenni.
Y cwper yn ei weithdy oedd yn gwneud y casgenni pren. . Roedd hwn yn waith medrus a phwysig. Pan nad oedd angen pattensy casgenni roedd yn bosib eu tynnu oddi wrth ei gilydd a’u rhoi i’w cadw.

Yn y dyddiau hynny cyn esgidiau glaw neu ‘wellingtons’, roedd merched tlawd yn clymu darnau o bren i’w hesgidiau i’w hamddiffyn rhag y mwd. Fe fyddai gan bob tref fechan wneuthurwr darnau pren ar gyfer eu rhoi ar esgidiau megis David Davies o Lanfyllin.

 
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth