Llanfyllin a'r cylch
Ennill bywoliaeth
  Crefftwyr: teiliwr i wneuthurwyr olwynion  
Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau
sy’n gyntaf

Ymysg crefftwyr eraill o’r ardal yng Nghyfeirlyfr 1858 oedd y teilwyr a’r gwneuthurwyr olwynion yma.

Roedd y ddau grwp yma’n chwarae rôl bwysig yng nghymunedau bychain Cymru oes Fictoria.

 

Roedd y rheini oedd yn gallu fforddio yn cael eu dillad wedi’u gwneud iddynt gan deiliwr lleol yn arbennig ar eu cyfer. Roedd y bobl dlawd yn prynu dillad ail law neu’n addasu dillad oedd yn cael eu rhoi iddynt.Weithiau roeddynt yn gwneud dillad eu hunain.

Roedd llawer iawn o nwyddau yn ystod oes Fictoria yn cael eu cludo o amgylch mewn ceirt o bob math ac roedd llawer o deithio lleol yn digwydd mewn coets neu drap. Roedd pob un o’r rhain yn dibynnu ar sgiliau’r gwneuthurwr olwynion oedd yn gwneud olwynion ceirt trwy ddefnyddio pren, yn aml iawn gydag ymylon haearn.
Roedd yna alw mawr am wneuthurwyr olwynion ac roeddynt i’w cael ar draws yr ardal. Yn 1841 roedd yna 6 gwneuthwr olwynion ym mhlwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn unig.

 
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth