Roedd yn rhaid i grefftwyr a pherchnogion
siopau mewn ardaloedd gwledig wneud mwy nag un swydd er mwyn gallu cael
dau ben llinyn ynghyd.
Yn y darn yma gallwn weld groseriaid
oedd hefyd yn werthwyr haearn neu’n fferyllwyr neu’n delio mewn yd. Ymysg
y rheini sy’n seiri gwelwn fod dau ohonynt hefyd yn seiri maen.
Dyn neu ddynes sy’n gwerthu deunydd
yw’r dilledydd. Roedd hyn yn bwysig
mewn cyfnod pan oedd llawer o bobl yn gwneud neu’n trwsio dillad eu hunain.
Mae bragu
yn un o’r crefftau hynny nad ydynt yn gyfarwydd iawn i ni heddiw. Roedd
yn rhaid i’r bragwr drin y barlis gyda brag yn ei fragdy. Byddai’r cynnyrch
hwnnw yn cael ei ddefnyddio i fragu cwrw.
|