Peidiwch
ag anghofio!
Y cyfenwau
sy’n gyntaf
|
Mae
Cyfeirlyfr Slater o 1858 yn rhestru llawer o’r crefftwyr lleol
oedd yn gweithio yn yr ardal yr adeg honno. Mae rhai o’r crefftau yma
(megis cigyddion a gofaint) i’w cael heddiw,
ond mae llawer wedi diflannu.
Mae
llawer iawn o’r pethau rydym yn prynu yn y siopau lleol heddiw wedi’u
cynhyrchu mewn ffatrïoedd mewn gwlad arall. Ar ddechrau cyfnod Fictoria
roedd cludo nwyddau yn llawer arafach ac yn fwy anodd. Oherwydd hynny,
roedd llawer iawn mwy o’r hyn yr oedd pobl ei angen yn cael ei gynhyrchu’n
lleol gan grefftwyr medrus fel y crydd (uchod).
Roedd
y seiri pres a thunwyr yn grefftwyr
oedd yn gwneud gwrthrychau trwy ddefnyddio pres a thin. Yn y dyddiau cyn
plastig roedd llawer o flychau i gadw pethau wedi’u gwneud o’r rhain.
|
|