Llanfyllin a'r cylch
Trosedd a chosb
Ac ati...
Trawsgludiad draw dros y moroedd  
 

Enwau’r ddau ddyn a gyhuddwyd oedd Henry Smith o Firmingham, porthmon, a William Shaw o Huddersfield, gwëydd. Roedd y ddau ohonynt yn aros yn Llanfihangel ond nid ydym yn gwybod sut y gwnaethant ddod yno.
Gofynnwyd iddynt a oedd ganddynt unrhyw beth i’w ddweud a chofnodwyd eu hymateb.

 
  extract from court records
  Fe wnaethant ddweud eu bod wedi "found the several articles named on the other side in a field near the road at Llansantffraid".
Nid oedd y llys yn credu eu hesgusodion gwan a chafwyd y ddau ddyn yn euog.
Mae’r darn yma o gofnodion y llys yn sôn am sut y cawsant eu cosbi.
 
  extract from court records
 

Mae’n darllen -
"Ordered that the said prisoners Henry Smith and William Shaw be severally transported beyond the Seas to such places as Her Majesty by and with the consent of her Privy Council shall direct for the term of ten years."

Mae’r iaith gyfreithiol gymhleth hon yn golygu y byddai’r llywodraeth yn arwyddo gorchymyn yn anfon y ddau ddyn i drefedigaethau cosb yn Awstralia am ddeng mlynedd.
Yn fwy na thebyg ni ddaethant byth yn ôl. A hynny am ddwyn eitemau gwerth llai na £2 !
Mae’n amlwg fod y ddau’n euog ond mae’r gosb yn ymddangos yn llym iawn o gymharu â’r dirwyon a geir heddiw a gwasanaeth cymunedol.

 

Yn ôl i ddewislen Trosedd Llanfyllin