Llanfyllin
Bywyd ysgol
  Mae’r ysgol fach yma’n araf !  

Roedd gan bron i bob un o’r ysgolion cynharaf lawer o broblemau i ddelio â nhw, ac roedd gan yr ysgolion bach yn y bryniau fwy na’r rhan fwyaf. Roedd eu problemau’n cynnwys diffyg presenoldeb, tywydd gwael, salwch, a phrinder arian ar gyfer offer.
Ond roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn gwneud y gorau y gallent, ac fel arfer roeddynt yn cael adroddiadau eithaf da gan Arolygwyr yr Ysgolion. Serch hynny , nid oedd Ysgol Hirnant yn gwneud yn dda iawn yn 1895. Gallwch weld rhan o adroddiad swyddogol yr Arolygwr yma yn y Llyfr Cofnod y gallwch chi weld yma...

1 Gorffennaf
1895
School diary entry
"This little school, I regret to have to report, is in a backward condition. The Reading in the first and second standards and the Spelling in the second standard were weak; the Arithmetic in the first standard was practically a failure: some of the children in it could not take the sums down, and others attempted to do the sums by means of strokes on their slates. Out of 19 examined in the whole school in Arithmetic only two passed well, seven just barely passed, and ten failed, and out of these ten, six had no sums right".
 

Roedd yr Arolygwr yn gallu cael golwg ar 19 o blant yr ysgol. Yn 1891 nododd yr adroddiad "This school, always small, is now so reduced in numbers by measles and influenza that there are hardly any children to examine".
Efallai y byddai wedi bod yn well pa bai yna lai o blant yn yr ysgol pan wnaeth yr Arolygwr ymweld â Hirnant yn 1895 !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfyllin.
.

.