Llanfyllin a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn 1835  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig ar fap y degwm yn 1835 ac mae’n rhoi syniad da i ni o’r gymuned hon sydd ar y ffin ar ddechrau cyfnod Fictoria.
Mae ochr Sir Ddinbych o’r afon wedi’i lunio ar wahân i ochr Sir Drefaldwyn, ond rydym wedi’u rhoi ochr wrth ochr yma er mwyn ei gwneud yn haws i ni weld pa fath o bentref ydoedd.

 
  Llanrhaeadr tithe map
 

Er bod y pentref i’w weld yn anghysbell ac yn bell oddi wrth y trefi a’r dinasoedd mawr, mae canlyniadau cyfrifiad 1841 yn dangos fod hon yn gymuned oedd yn ffynnu ar ddechrau cyfnod Fictoria.
Fel y gallwch weld o’r mapiau yma, roedd y bobl leol yn gwneud y defnydd gorau posibl o ddwr yr afon oedd yn rhedeg yn gyflym trwy’r melinau dwr. Yn ogystal â’r melinwyr roedd yna amrediad o fasnachwyr a chrefftwyr yn gweithio yn y gymuned bryd hynny.
Yn rhan Sir Drefaldwyn o’r plwyf yn unig roedd 6 gwneuthurwr olwynion, 6 chrydd, 8 teilwr, 6 gwëydd, 2 gwniadwraig, 3 cwper, 3 chigydd, 4 gofaint, 2 saer coed, a cheidwad tollty.
Hefyd roedd Lewis Usher yn gweithio yno fel rhwymwr llyfrau, a hefyd Cwnstabl yr Heddlu sef Robert Owens.

Cymharwch gyda Llanrhaeadr yn 1902...


MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i Eglwys Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.

 

 

Yn ôl i ddewislen map Llanfyllin