Llanfyllin a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn 1902  
 

Mae’r map yma yn rhan o fap ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1902.
Er nad yw’r pentref wedi newid llawer iawn, ar y map gallwch weld rhai o’r newidiadau a ddigwyddodd yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.

 
  Llanrhaeadr in 1902
 

1. Er bod yna ysgol Brydeinig a Chenedlaethol yn Llanrhaeadr ar ddechrau cyfnod Fictoria mae’r map yn dangos yr ysgolion newydd a adeiladwyd yn y pentref. Erbyn 1902 roedd pob plentyn yn cael addysg. Fe wnaeth hyn wahaniaeth mawr i’r bobl gyffredin oedd yn byw yn yr ardal. Roedd dysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu ac i wneud mathemateg sylfaenol yn rhoi gwell cyfle i blant gael gwell gwaith pan fyddent yn gadael yr ysgol. Serch hynny roedd llawer iawn o blant yn tyfu ac yn mynd i weithio ar y tir neu’n mynd i wasanaethu. (Gweler y tudalennau Bywyd Ysgol am fwy ynglyn ag ysgolion Fictoraidd yn yr ardal.)

2. Adeiladwyd o leiaf un capel newydd yn y pentref yn cynnig dull arall o addoli i’r bobl leol. Roedd y capeli hefyd yn trefnu llawer o weithgareddau eraill i’w haelodau’n yr iaith Gymraeg ac felly’n cynorthwyo i gadw’r iaith a’i thraddodiadau yn fyw.

3. Er bod gan Lanrhaeadr blismon lleol yn yr ardal ers yr 1840au, roedd gan y pentref bellach gorsaf yr heddlu newydd yn ffordd y Dwyrain.

Cymharwch gyda Llanrhaeadr yn 1835...

 
 

Yn ôl i ddewislen map Llanfyllin