Llanfyllin a'r cylch
Ennill bywoliaeth
  Dynion proffesiynol yr ardal yn 1858  

Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau
sy’n gyntaf

Roedd yn rhaid i ddynion proffesiynol ar ddechrau teyrnasiad Fictoria weithio i ennill bywoliaeth, ond roeddynt yn ddynion oedd wedi cael addysg.

PWYSIG!
Sylwch mai dynion yw pob un o’r rheini sydd wedi’u rhestru fel "Unigolion proffesiynol " !
Nid oedd y rhan fwyaf o swyddi proffesiynol yn agored i ferched yn oes Fictoria.

Yma gallwn weld y cyfreithwyr neu fargyfreithwyr oedd wedi’u hyfforddi yn y gyfraith, a’r arwerthwyr oedd yn rhedeg yr arwerthiannau da byw.

Ar ddechrau cyfnod Fictoria roedd rôl y meddyg yn newid. Hyd yn hyn nid oedd meddygon yn cael rhyw lawer iawn o hyfforddiant, ond roedd yn gallu tynnu dannedd a gosod breichiau neu goesau oedd wedi torri.

Entry from Slater's Directory
 

Yn ddiweddarach yn ystod teyrnasiad Fictoria roeddynt yn cael llawer iawn mwy o hyfforddiant, a daeth meddygon yn bobl oedd â hyfforddiant arbenigol ar gyfer gwneud llawdriniaethau. Heddiw ystyrir athrawon fel pobl broffesiynol sydd â chymwysterau uchel ond yn ysgolion lleol cyfnod Fictoria roedd pobl yn edrych arnynt fel rhai o ddosbarth is.
(Edrychwch ar y tudalennau ar ddyddiau ysgol oes Fictoria er mwyn cael gwybod sut beth oedd bywyd ysgol yn yr ardal).

Victorian professional man
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth