Llanfyllin
a'r cylch Dywedodd John Davies wrth yr heddlu
bod Wil ar goll, a gydag amser daeth y Cwnstabl lleol William Davies o
hyd iddo ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach. Mae’n darllen -
Trosedd a chosb
Achos
Will Price
Daeth PC Davies o hyd i Will
Price yn cuddio yn y gwely gartref
ar ddydd Iau ! Pan gafodd ei archwilio ni ddaethpwyd o hyd i’r arian.
Cyfaddefodd Will ei fod wedi meddwi yng Nghroesoswallt mewn sawl tafarn
gydag arian Mr Davies a gofynnodd i Mr Davies faddau iddo.
Roedd dwy bunt yn llawer iawn o arian yn 1856
a byddai nifer yn gwgu at ymddygiad Wil Davies ac fe’i cafwyd
yn euog.
Mae’r cofnod yma o’r llys yn dangos y ddedfryd y cafodd...
"Ordered that the prisoner be confined in the
House of Correction for this county and there kept to hard labour for
three calendar months".
Yn fwy
na thebyg roedd hyn yn golygu fod Will Davies wedi treulio’r rhan fwyaf
o’r tri mis yn y carchar yn torri creigiau.
Pan ddaeth allan o’r carchar fe’i cafodd yn anodd iawn i gael cyflogwyr
i ymddiried ynddo ac i roi gwaith iddo.
Os oedd yn ddi-waith dim ond y tloty
oedd rhyngddo ef a llwgu.