Llanfyllin Mae yna lawer o bethau i’n hatgoffa
yng nghofnodion swyddogol ysgolion Fictoraidd o’r tlodi yr oedd llawer
o deuluoedd oedd â phlant oed ysgol yn ei ddioddef. Mae’r enghraifft a
welwch chi yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Pen-y-bont
Fawr yn 1890. Roedd llawer o rieni
angen yr arian ychwanegol yr oedd y plant hyn yn gallu ennill o waith
megis pigo ffrwythau i’w gwerthu ar wahanol adegau’r flwyddyn yn hytrach
na mynd i’r ysgol. Yn ôl i ddewislen
ysgolion Llanfyllin.
Bywyd ysgol
Plant
y tlodion
Roedd 'plant y tlodion' a sonnir amdanynt
yn dod o deuluoedd tlawd iawn oedd yn derbyn arian ar gyfer pethau hanfodol
fel bwyd a dillad gan y Swyddog Cymorth o arian y plwyf sef Treth y Tlodion.
Roeddynt hefyd yn derbyn arian ar gyfer ffioedd ysgol, ond dim ond os
oedd y plant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd.
1890
"Sent
a list of pauper children and their attendances to the relieving officer
with a school fees return..."
Mae’r Llyfr
Cofnod a welwch chi yma wedi dod o’r un ysgol yn 1895...
1895
"The
attendance is getting worse and worse which makes things look very serious.
Some children are ill again and others are kept at home by their parents,
their clothing and books being poor"...
Mae Llyfr Cofnod Ysgol Bwlchycibau
ym mis Mai 1894 yn cofnodi bod "Richard
Williams (aged 11) and Sarah Wynne (aged 11) both being scholars of the
3rd Standard have now been in service for three weeks".
Mae hyn yn golygu eu bod wedi gadael ysgol pan mai dim ond 11 mlwydd oed
oeddynt i weithio fel gweision. Roedd gweision newydd fel arfer yn cael
eu cyflogi am flwyddyn ym mis mai yn y Ffair leol.