Llanfyllin Roedd poblogaeth yr ardal hon o Ogledd
Sir Drefaldwyn yn newid o hyd trwy gydol cyfnod Fictoria am fod pobl yn
symud o gwmpas i ennill bywoliaeth. Cyflogwyd dynion i deithio o gwmpas
yr ardal i gofnodi pwy oedd yn byw yn y tai a beth oedd eu gwaith. Mae’r
graffiau poblogaeth
yn yr adran hon wedi’u paratoi o’r cofnodion yma. Roedd Prydain wedi’i rhannu yn blwyfi
(gweler y map) ac mae’r ffigyrau’n dangos
y nifer o bobl oedd yn byw yn y plwyf. Dewiswch o’r rhestr
a welwch chi yma er mwyn gweld graffiau o boblogaeth y plwyfi
lleol yn ystod oes Fictoria. .
Graffiau poblogaeth
Ffigurau
cyfrifiad ar gyfer yr ardal hon
Cofnodwyd gwybodaeth am y boblogaeth leol yn y cyfrifiad.
Roedd cyfrifiad yn digwydd bob deng mlynedd.