Llanfyllin
Llyn Efyrnwy
  Adeiladwyr y cronfeydd yn ystod oes Fictoria  
 

Mae’r llun a welwch chi yma yn dangos wal y gronfa yn nyffryn Efyrnwy pan oedd y gwaith adeiladu ar fin dod i ben. Am y tro cyntaf roedd blociau mawr o gerrig yn cael eu defnyddio ym Mhrydain i adeiladu cronfa o’r maint yma. Gallwch chi weld pa mor fawr oedd y gronfa o’r ffigyrau bychain o bobl yn y llun. Mae’r rhes o fwâu ar ben y gronfa yn cael eu gorffen yn y fan yma, ac mae sawl craen enfawr oedd yn cael eu gyrru gan stêm yn cael eu defnyddio i ostwng y blociau i’w lle.
Pan fo’r llyn yn llawn mae yna agoriadau ar ben y gronfa i adael dwr i arllwys dros y top a rhedeg fel rhaeadr i lawr dros yr ochr.

Mae mwy am adeiladu cronfeydd yn ystod oes Fictoria ar y tudalennau ar gronfeydd
Cwm Elan
Adeiladu
y cronfa
Vyrnwy
1888
Dam under construction,1888
 

Mae’r gronfa yn 26m uchel (84tr) o wely’r llyn i’r sil ar gyfer dwr sy’n gorlifo, ond mae fwy neu lai ddwywaith gymaint os Compensation tunnely mesurir o’r sylfeini sydd wedi’u claddu i ben y strwythur. Mae’r gronfa yn 357m o hyd (1172tr), ac mae’r sylfaen yn 36.5m o drwch (120tr).
Yn yr agoriadau sydd wedi’u torri i mewn fel stepiau ar waelod y wal yn y llun mawr mae yna dwnelau y gellir eu rheoli i ganiatáu cludo digon o ddwr i lawr yr afon fel ei fod yn llifo fel arfer. Mae’r beirianneg ar gyfer gweithio’r falfiau wedi’u lleoli tu fewn i’r ddau dwr o garreg ar ben wal y gronfa uwchben y ddau dwnnel. Yr enw a roddir ar y cyflenwad o ddwr yw dwr 'compensation'. Gallwch chi weld un o’r allanfeydd dwr ar waelod y llun.

Yn ôl i ddewislen Llyn Efyrnwy
.

.