Llanfyllin
Bywyd ysgol
  Darllen, ysgrifennu, gweu, brodio…  
 

Roedd y gwersi yn y rhan fwyaf o ysgolion Fictoraidd yn weddol reolaidd. Ond yn ffodus iawn roedd llawer o athrawon oedd yn ysgrifennu yn y Llyfrau Cofnod swyddogol yn gallu gwneud i bethau fod yn fwy diddorol na’r athro arbennig yma yn Ysgol Hirnant yn 1873...

 
6-28
Gorffennaf
1873
School diary entry
 

Mae’r darn yma o’r Llyfr Cofnod yn darllen "Taught reading, writing and Arithmatic" ar gyfer pob wythnos o’r 6ed i’r 29ain Gorffennaf 1873, gyda ‘arithmetic’ wedi’i sillafu’n anghywir !
Ar wahân i ddysgu am eiriau, llythyron, a symiau roedd yna hefyd wersi ymarferol i’r merched gan Feistres y Gwnïo. Mae’r enghraifft yma yn dod o Ysgol Llwydiarth yn 1893...

 
8 Mehefin
1893
School diary entry

Mae’r darn yma o Lyfr Cofnod yn darllen -
"The girls commenced their knitting of cuffs and strips for Inspection. They also had lessons in darning and cutting Drawing of sewing lesson out. The boys commenced drawing in books".

Ychydig iawn o gyfleoedd gwaith oedd gan ferched yn ystod cyfnod Fictoria, byddai llawer ohonynt yn dod yn weision yn nhai mawr boneddigion cyfoethog yr ardal.
Roedd gwersi gwnïo yn angenrheidiol ar gyfer llawer o’r gwaith yma, ac roedd hyn hefyd yn eu cynorthwyo i ofalu am gartrefi a theuluoedd eu hunain.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfyllin

..