Llanfyllin
a'r cylch Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig
ar fap y degwm yn 1840 ac mae’n rhoi
syniad o sut bentref oedd Llangynog ar ddechrau
cyfnod Fictoria. Mae canlyniadau
cyfrifiad 1841 yn dweud wrthym pwy oedd yn byw yn y gymuned
tua’r amser yma.
Mapiau
Fictoriaidd
Llangynog
yn 1840
O’r map gallwn weld fod y gymuned fynyddig hon wedi datblygu lle mae dwy
afon yn cwrdd ac mae yna lwybr pwysig yn croesi mynyddoedd y Berwyn i’r
Bala.
Yn debyg iawn i lawer o fapiau’r degwm nid oedd Gogledd wedi’i nodi ar
ben y map. Rydym wedi ei droi o gwmpas er mwyn ei wneud yn haws i’w gymharu
gyda’r map diweddarach.
MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i
Eglwys Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich
eiddo. Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.
Roedd dau brif fath o waith yn y plwyf sef "y
chwarel", a’r cloddwyr plwm.
Heb amheuaeth roeddynt yn byw mewn bythynnod bach gwasgaredig y gallwch
eu gweld ar y map.
Hefyd roedd yna deilwr, crochenydd, gwëydd a chwper yn y gymuned. Roedd
un dyn - Ismail Phillips – yn ennill ei fywoliaeth fel llifiwr. Roedd
yn llifo boncyffion coed mawr gyda llaw i wneud planciau.