Llanfyllin a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  Llangynog yn 1902  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn rhan o fap ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1902.
Er bod y gymuned yn edrych yn debyg iawn i fel ag yr oedd yn edrych yn 1840, fe fu yna rai newidiadau yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

 
  Llangynog in 1902
 

1. Mae’r pentref wedi ehangu ac mae rhes newydd o fythynnod mwy "Bythynnod Berwyn" wedi’u hadeiladu ar y ffordd i’r bont.

2. Adeiladwyd ysgol newydd hardd ar gyfer y plant lleol. Erbyn diwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria roedd pob plentyn yn derbyn addysg. Roedd hyn yn bwysig iawn blant y teuluoedd dosbarth gweithiol cyffredin. Roedd yr ysgol newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i’r plant yma wedi iddynt dyfu. Yn hytrach na chael eu cyfyngu i rai mathau o waith, rhoddwyd digon o addysg i blant i alluogi rhai ohonynt i wneud rhywbeth gwahanol gyda’u bywydau.

3. Mae capel newydd wedi’i adeiladu yn y pentref. Yn ystod cyfnod Fictoria gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y capeli wrth i gymunedau sefydlu llefydd newydd o addoliad lle roeddynt yn gallu addoli yn eu ffordd eu hunain ac un eu hiaith eu hunain.

4. Roedd y rheilffordd wedi cyrraedd Llangynog gan gysylltu’r gymuned fynyddig anghysbell hon gyda’r rhwydwaith rheilffordd enfawr. Byddai hyn yn gymorth i’r diwydiant llechi a diwydiannau eraill gan ganiatáu i nwyddau fynd i lefydd newydd a phell. Roedd hefyd yn caniatáu cyfleoedd newydd o ran teithio i’r rheini oedd yn gallu ei fforddio.

Cymharwch gyda Llangynog yn 1840...

 
 

Yn ôl i ddewislen map Llanfyllin