Llanfyllin a'r cylch
Ennill bywoliaeth
  Bonedd ardal Llanfyllin yn 1858  
Peidiwch ag anghofio !
Y cyfenwau sy’n gyntaf.

Ar y dde mae rhestr o’r holl bobl hynny yn Llanfyllin a Gogledd Sir Drefaldwyn oedd eisiau eu rhestru yng Nghyfeirlyfr Slater fel "Bonedd" yn 1858.
Roedd y bonedd yn berchen ar eiddo ac nid oeddynt yn gweithio er mwyn ennill bywoliaeth, ond yn rhentu ffermydd a thai i denantiaid ac yn codi rhent. Yn bendant roeddynt yn meddwl eu bod uwchlaw’r rheini oedd yn gweithio fel "crefftwyr" neu’n gweithio iddynt hwy.

Y clerigwyr oedd ficeriaid Eglwys Lloegr a oedd fel arfer yn aelodau o deuluoedd bonheddig.

Roedd gan berchnogion Bodfach a Llwyn ddylanwad mawr ar dref Llanfyllin trwy gydol cyfnod Fictoria.

Entry from Slater's Directory
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth