Llanfyllin a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  Llanfyllin yn 1902
Geirfa
 

Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig ar raddfa o 6 modfedd = 1 filltir yn 1902.
Er nad yw’r dref wedi newid llawer iawn ar y map gallwn weld rhai o’r newidiadau sydd wedi digwydd yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.

gorfodol - Os yw rhywbeth yn orfodol yna mae’n rhaid i chi ei wneud.
 
  Llanfyllin in 1902
 

1. Mae’r map yn dangos fod tair ysgol yn y dref yn 1902 (pob un wedi’i nodi 1). Er bod yna ysgolion yn y dref ar adeg map y degwm, erbyn diwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria roedd pob plentyn yn gallu cael addysg ac roedd mynd i’r ysgol yn orfodol.
Roedd yr Ysgol Ganolradd (sydd bellach yn llyfrgell) yn cynnig addysg uwchradd ar gyfer y plant mwy galluog oedd yn hynach. Nid oedd llawer o rieni o deuluoedd tlawd yn gallu fforddio cadw eu plant yn yr ysgol pan oeddynt yn hyn na rhyw 14 mlwydd oed.

2. Mae’r rheilffordd wedi dod i Lanfyllin. (Edrychwch ar y tudalennau ar Gludiant) Wrth i’r orsaf gael ei hagor yn 1863 roedd yna rwydwaith rheilffordd wych yn cysylltu’r ardal oddi amgylch. Roedd hyn yn gwneud teithio ar draws y wlad a hefyd cludo nwyddau yn llawer iawn haws. Daeth nwyddau rhatach i mewn i’r ardal o lefydd pellach i ffwrdd, ac fe wnaeth hyn gynorthwyo pobl oedd yn dlawd ond collodd rhai crefftwyr lleol eu gwaith.

3. Mae gorsaf yr heddlu newydd hardd wedi’i hadeiladu gyda thy ar gyfer y plismon a’i deulu a gorsaf gyda dwy gell ynddi.

Cymharwch gyda Llanfyllin yn 1850...

 
 

Yn ôl i ddewislen map Llanfyllin