Llanfyllin
a'r cylch O ben chwith y map i lawr i’r gwaelod
ar y dde gallwn weld y prif lwybr i lawr dyffryn
yr Afon Cain. Gwelwn ffordd yn mynd i ffwrdd i’r dde dros yr
afon i’r cymunedau llai yn y Gogledd.
Mapiau
Fictoriaidd
Llanfyllin
yn 1850
Mae’r map
a welwch chi yma wedi’i seilio ar fap y degwm
o Lanfyllin yn 1850. Wrth edrych ar y map mae’n rhoi darlun i ni o’r dref
ar ddechrau cyfnod Fictoria.
Gallwn weld o’r ffordd y mae’r dref yn edrych mai cymuned yw hon – yn debyg
iawn i lawer o rai eraill ym Mhowys – a dyfodd lle’r oedd ffyrdd yn cwrdd
a lle’r oedd yna fan da i groesi afon.
MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i
Eglwys Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich
eiddo. Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.
Yn debyg iawn i Lanfair Caereinion a Llanfair-ym-Muallt, sefydlwyd marchnad
yma lle y mae’r ffyrdd yn cwrdd a hefyd datblygodd tref.
Yn 1850 roedd bywyd yn y gymuned yn wahanol iawn i fywyd y bobl leol heddiw,
ond roedd yn gymuned leol oedd yn ffynnu
gyda llawer o grefftwyr a masnachwyr yn ennill bywoliaeth ac yn darparu
gwasanaethau pwysig i’r ardal oddi amgylch. (Edrychwch
ar y Cyfeirlyfr Masnach yn yr adran Ennill bywoliaeth).