Llanfyllin
a'r cylch Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig
ar fap y degwm yn 1840 ac mae’n rhoi syniad i ni o bentref Meifod ar ddechrau
cyfnod Fictoria. Roedd y gymuned fechan hon yn gartref
i gymuned o bobl oedd yn ffynnu bryd hynny. Roedd gan plwyf Meifod – oedd
yn cynnwys y wlad o amgylch y pentref - 16 crydd,
8 gofaint, 5 gwneuthurwr
olwynion a 4 gwnďadwragedd
yn ogystal â chigydd, pobydd a groser y byddech yn disgwyl eu gweld yno.
Mapiau
Fictoriaidd
Meifod
yn 1840
O’r map gallwn weld fod y gymuned wedi datblygu ar lwybr ar hyd dyffryn
Efyrnwy mewn man cyfleus i groesi’r afon.
MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i
Eglwys Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich
eiddo. Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.
Sarah Phillips oedd yn cadw’r Llew Coch.
Roedd ysgol gan y pentref ond nid ydym yn gwybod faint o’r teuluoedd tlawd
oedd yn gallu fforddio anfon eu plant yno. Rydym yn gwybod mai Thomas
Morgan oedd meistr yr ysgol ac roedd yn lletya yn Nhy Coch.