Llanfyllin Er mwyn creu llyn mawr i gyflenwi
dwr i Lerpwl, roedd yn rhaid cronni Afon Efyrnwy
trwy adeiladu cronfa enfawr o gerrig. Roedd yn rhaid llifo’r dyffryn cyfan
y tu ôl i’r gronfa, ac roedd hen bentref Llanwddyn
yn y dyffryn yma. Mae’r hen engrafiad
yma yn dangos swyddfa’r post a thafarn
y ‘Cross Guns’ yng nghanol y pentref gwreiddiol yn fuan cyn i’r dyffryn
gael ei orlifo â dwr. Collwyd eglwys y plwyf
(a welwch chi yma),
dau gapel, tri thafarn, deg o ffermdai a 37 o dai i’r dwr oedd yn codi.
Llyn Efyrnwy
Llanwddyn,
y pentref a gollwyd
Dechreuodd gwaith ar adeiladu’r gronfa yn 1881,
ac am yr wyth mlynedd nesaf roedd wal y gronfa ar waelod y dyffryn yn
araf dyfu wrth i bobl y pentref fynd o gwmpas eu bywyd bob dydd.
y pentref
a gollwyd
Adeiladwyd pentref newydd nes i lawr
y dyffryn gan y ‘Liverpool Corporation’ cyn y gorlifo ar gyfer y bobl
a gollodd eu cartrefi. Tynnwyd adeiladau’r hen bentref i lawr wedi i’r
bobl symud oddi yno, a thynnwyd gweddillion y meirw o fynwent
yr eglwys a’u hail gladdu wrth ymyl yr eglwys newydd.
Mae mwy o luniau o’r dyffryn cyn iddo gael ei orlifo ar y dudalen
nesaf...