Llanfyllin a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  Llanfechain yn 1902  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn rhan o fap ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1902.
Er bod y gymuned yn edrych yn debyg iawn i fel ag yr oedd yn edrych yn 1840, fe fu yna rai newidiadau yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

 
  Llanfechain in 1902
 

1. Mae cwrs Afon Cain wedi’i newid er mwyn ei wneud yn fwy syth gan gynorthwyo i ddiogelu’r pentref a’r caeau rhag cael eu gorchuddio gan ddwr llifogydd.

2. Roedd y rheilffordd wedi dod i’r pentref. Mae cangen Llanfyllin o Reiffordd y Cambrian yn mynd trwy’r pentref. Mae gorsaf Llanfechain ychydig oddi ar y map i’r dwyrain. Trwy’r datblygiad newydd yma mewn cludiant roedd pobl leol a busnesau yn gallu cysylltu’n well gyda threfi a dinasoedd Prydain.

3. Mae’r pentref wedi tyfu. Gallwn weld yma fod cartrefi newydd wedi’u hadeiladu yn y pentref. Er i’r boblogaeth yn yr ardaloedd gwledig ostwng yn ystod teyrnasiad Fictoria, adeiladwyd cartrefi mwy a gwell i’r bobl leol.

Cymharwch gyda Llanfechain yn 1840...

 
 

Yn ôl i ddewislen map Llanfyllin