Llanfyllin
a'r cylch Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig
ar fap y degwm yn 1840 ac mae’n rhoi
syniad da i ni o sut le oedd pentref Llanfechain ar ddechrau
cyfnod Fictoria. Mae canlyniadau
cyfrifiad 1841 yn dweud wrthym pwy oedd yn byw ac yn gweithio
yma bryd hynny. Yn ôl i ddewislen
map Llanfyllin
Mapiau
Fictoriaidd
Llanfechain
yn 1840
O’r map gallwn weld fod y gymuned wedi datblygu ar fan cyfleus ar gyfer
croesi Afon Cain ar hyd llwybr ar hyd y dyffryn i Loegr.
MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i
Eglwys Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich
eiddo. Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.
Roedd yna 2 ofaint, 3 saer maen, 1 cwper, 1 saer ac un gwneuthurwr olwynion.
Hefyd roedd yna ddau grydd a theilwr oedd yn darparu ar gyfer anghenion
y bobl leol.
Roedd gan y pentref hefyd argraffwr a chlerc y plwyf, a chludwyr
ar gyfer mynd â nwyddau i’r trefi mwy.
Roedd yna ysgol yn y pentref ac enw’r ysgol feistr oedd Morris Davies,
er nad oedd llawer o deuluoedd yn gallu fforddio anfon eu plant i’r ysgol.