Llanfyllin
Bywyd ysgol
|
Wedi
meddwi pan yn gyfrifol am Ysgol Bwlchycibau ! |
|
|
Mae yna sôn yn eithaf aml am ymddygiad
gwael gan blant oes Fictoria mewn Llyfrau Cofnod ysgolion neu
ddyddiaduron.
Yn ffodus, nid oedd ymddygiad gwael gan athrawon yn gyffredin. Pan aeth
yr Arolygydd Ysgolion i Ysgol Bwlchycibau
yn 1881 dywedodd fod y canlyniadau
arholiad ymhlith y gwaethaf iddo weld erioed.
Rhoddodd y bai ar yr athrawon (dynion i gyd !)
ac un yn arbennig, Levi Pugh, oedd yn ddiog ac
yn dipyn o feddwyn !
Gallwch weld rhan o adroddiad yr Arolygwr ar ei ymweliad â’r ysgol yma...
|
|
16
Rhagfyr
1881
|
|
"With
this report I send to the Education Department one of the worst Examination
Schedules I ever saw. In 1875, at its last Inspection under a School Mistress
(Amelia Thomas) this School was very good. Ever since then, under a succession
of unsatisfactory School Masters, it has been steadily getting worse until
the lowest depth was reached this year in the idleness and drunkenness of
the late teacher, Levi Pugh". |
|
"As he is gone
and the present Master, who has only been here three months, seems respectable
and industrious I have refrained from recommending a reduction of the
Grant ..."
Felly roedd
yr ysgol wedi bod yn un dda nôl yn 1875 pan oedd athrawes
yn gyfrifol am y lle, ond roedd y dynion
ers hynny wedi bod yn ofnadwy !
Roedd yr Arolygydd o’r farn bod yr athro newydd yn gweithio’n galed felly
roedd yn mynd i roi cyfle arall i’r
ysgol i wella erbyn yr Arolwg nesaf cyn atal yr arian grant swyddogol
!
Yn ôl i ddewislen
ysgolion Llanfyllin.
.
.
|
|
|
|
|