Llanfyllin
Bywyd ysgol
  O, na fyddech yma ...  

Fel ag a wnaethoch chi weld ar y dudalen flaenorol, roedd bron yn amhosib cael plant i fynychu ysgol yn rheolaidd yn ystod cyfnod Fictoria, ac roedd y rhan fwyaf o’r prifathrawon yn cwyno am hyn yn y Llyfrau Cofnod.
Roedd gwaith fferm yn cadw’r plant hyn i ffwrdd ar wahanol adegau’r flwyddyn. Y cynhaeaf gwair oedd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bresenoldeb, ond roedd yna hefyd dasgau pwysig eraill, megis codi tatws.
Mae’r enghraifft yma’n dod o Ysgol Llwydiarth yn 1889...

Digging potatoes
25 Hydref
1889
School diary entry
"Owing to the fact that several of the children were at home digging potatoes the attendance for this week was very scanty, the average being only 12.7".
Nid oedd pethau’n well yn yr ysgol yn 1893...
 
23 Mehefin
1893
School diary entry "Only seven children this morning. Many of the children stay at home when they please, which is and has been very often the case".

Roedd gan y rhan fwyaf o ysgolion 'Swyddog Presenoldeb' oedd fod i wneud yn siwr fod plant yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd, ond roedd llawer ohonynt yn dda i ddim yn gwneud y gwaith yma. Roedd pennaeth Ysgol Llwydiarth yn ysgrifennu’n gyson at y Swyddog Presenoldeb yn 1888 ynglyn â bachgen na wnaeth fynychu’r ysgol am 15 mis, ond ni wnaeth y Swyddog Presenoldeb ei hunan ymweld â’r ysgol am 9 mis !
Dyma ddarn o ddyddiadur Ysgol Pen-y-bont Fawr yn 1891 ac mae’n darllen "Mr Thomas the Attendance Officer called on Friday afternoon. It is more than a year since he called before this".
Mae un arall o 1898 yn darllen "The Attendance Officer visited; 48 present, 34 absent".
Yn 1887 gofynnodd yr ysgol i’r plismon lleol ymweld â rhieni a "the result was 34 old offendors were made to attend" !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfyllin.

 

Policeman at the door