Llanfair Caereinion
Mapiau Fictoriaidd
  Tregynon yn 1836  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn ddarn o fap Arolwg Ordnans wedi’i wneud i raddfa o 1 fodfedd = 1 filltir yn 1836. Er nad oes llawer iawn o fanylion arno mae’n rhoi syniad i ni o’r ardal ar ddechrau oes Fictoria.
Mae’r ffordd y mae’r map wedi’i liwio yn rhoi syniad da iawn i ni o siâp y dirwedd. Wrth edrych ar hwn gallwch weld bod Tregynon wedi datblygu ar lethr ar y ffordd sy’n cysylltu’r Drenewydd a Llanfair Caereinion.

 
 
 

Yng nghornel gwaelod chwith y map gallwch weld Neuadd Gregynog oedd yn ganolbwynt i stâd bwysig. (Gallwch weld y neuadd fel ag yr oedd ar adeg tynnu’r llun yma). Byddai llawer o’r ffermwyr lleol yn denantiaid i’r ystâd. Byddai llawer o’r plant lleol wedi mynd yno i weini pan fyddent yn ddigon hen, yn gweithio fel gweision yn y ty a’r gerddi.

Gallwch weld y ffordd y mae parciau Gregynog wedi’u plannu gyda choetiroedd er mwyn creu golygfeydd hardd o’r ty. Mae hyn wedi parhau dros y blynyddoedd. Y tirfeddiannwr fyddai un o’r dynion a fyddai wedi bod yn gyfrifol am redeg y sir ar ran y Frenhines drwy wasanaethu fel Ynad Heddwch.

 
  Cymharwch gyda map o Dregynon yn 1902..  
 

Yn ôl i ddewislen map Llanfair Caereinion

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair