Llanfair 
      Caereinion 
      Mapiau Fictoriaidd  
| Manafon yn 1902 | ||
|  
       Mae’r map yma yn rhan o fap a oedd ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1902. Mae mwy o fanylion o’r dref ar y map yma na map 1836, a gallwn weld mwy o’r pentref ei hunan a rhai o’r newidiadau a ddigwyddodd yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.  | 
    ||
![]()  | 
  ||
| Y peth cyntaf i’w sylwi arno yw nad yw’r gymuned wedi newid llawer ers 1836. Mae’r rhyd a fu yno am ganrifoedd wedi’i mynd – ac yn ei lle mae pont ond mae yna bompren wrth y ficerdy. Er bod Manafon yn bentref bychain iawn, mae efail yno (wedi’i nodi Smy.) a thafarn yn y pentref (wedi’i nodi P.H.). | ||
  
      Roedd ysgol y pentref yn bwysicach ar 
      gyfer newid bywydau pobl yn ystod teyrnasiad Fictoria (nodi Sch.) 
      Gellir ei gweld ger yr eglwys (a ddangosir yma). Yn debyg iawn i Gastell 
      Caereinion a phentrefi gwledig eraill roedd yr ysgol newydd yn cynnig cyfleoedd 
      i blant o’r teuluoedd tlotaf pan fyddent yn tyfu. Yn hytrach na pheidio 
      â chael unrhyw fath o fywyd mewn unrhyw le heblaw am weithio ar y tir, roedd 
      plant yn cael digon o addysg i fedru gwneud rhywbeth gwahanol gyda’u bywydau..  | 
    ||
| Cymharwch gyda map o Fanafon yn 1836.. | 
|  
       | 
  ||