Llanfair Caereinion
Trosedd a chosb
  Sach yn llawn ieir
Glossary
 

Yn ystod gaeaf 1843 cynhaliwyd y Sesiynau Chwarter yn y Guildhall yn Nhrefaldwyn. Un o’r rheini a ddaeth o flaen yr Ynadon oedd Richard Powell o Dregynon a gyhuddwyd o ddwyn ieir Mary Jones o Gaecapan.
Cofnodwyd datganiad Mary Jones i’r Ynadon Heddwch ar yr adeg pan ddigwyddodd y drosedd gan y clerc, felly rydym yn gwybod beth ddywedodd. Dywedodd wrthynt ei bod yn cadw ieir ar fuarth ei fferm a’i bod yn arfer eu cyfrif bob bore pan yn eu bwydo.

Ynadon Heddwch – dynion addysgiedig oedd yn berchen ar eiddo oedd yn cynnal digwyddiadau sirol ar ran y Frenhines.
 
  Extract from Mary Jones' statement
 

Mae’r darn yn darllen:
"I saw them all yesterday morning when I threw them some meal about eleven o'clock. I counted them and they were all there. I did not see them again until this morning when I only found fifteen - fourteen were missing."

Roedd digon o synnwyr cyffredin gan Mary i sylweddoli fod rhywun wedi dwyn yr ieir, ac y byddai’n fwy na thebyg yn ceisio eu gwerthu. Aeth yn syth i farchnad Y Drenewydd ac yna daeth o hyd i 12 ohonynt ar werth!

Ewch i weld yr hyn ddigwyddodd nesaf…

The mark of Mary Jones
  Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair Caereinion
Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanfair Caereinion