Llanfair 
      Caereinion 
      Mapiau Fictoriaidd  
| Llanfair Caereinion yn 1836 | ||
|  
       The Mae’r map Arolwg 
        Ordnans a welwch chi yma wedi’i wneud yn fwy o faint ar raddfa 
        1 fodfedd = 1 filltir yn 1836. Er nad oes llawer o fanylion arno mae’n 
        rhoi syniad da i ni o’r ardal ar ddechrau cyfnod Fictoria.   | 
    ||
![]()  | 
  ||
| Mae’n siwr y gallwch chi weld siâp y groes sef eglwys y plwyf sy’n sefyll yn y fynwent ger y bont. Dyma’r adeilad mwyaf yn y dref ar yr adeg yma. Hefyd gallwch weld nad oes yna unrhyw fylchau rhwng y tai, felly mae yna lawer o ailadeiladu wedi digwydd wedi tân 1758. | ||
| Wedi’u nodi gyda T.G. ar y map, mae dau dollty ar ffyrdd sy’n mynd i gyfeiriad y de a’r gorllewin allan o’r dref. Dyma lle y byddai unrhyw un oedd yn teithio gydag anifail yn gorfod talu i ddefnyddio’r rhan nesaf o’r ffordd. | ||
| Cymharwch hwn gyda map o’r dref yn 1902.. | 
|  
       | 
  ||