Llanfair 
      Caereinion 
      Mapiau Fictoriaidd  
| Llanfair Caereinion yn 1902 | ||
|  
       Mae’r map yma yn ddarn o fap sydd ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1902. Mae mwy o fanylion ar y map yma na map 1836 o’r dref, a gallwn weld mwy o’r adeiladau a rhai o’r newidiadau sydd wedi digwydd yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.  | 
    ||
![]()  | 
  ||
| Tref farchnad fach yw’r dref o hyd gydag eglwys y plwyf yn y canol. Ailadeiladwyd yr eglwys yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria ac mae’r siâp yn wahanol i fap 1836. Hefyd, mae yna lawer o gapeli yn y dref oedd yn rhoi cyfle yn awr i bobl leol addoli mewn ffordd wahanol. Roedd y capeli hyn hefyd yn trefnu llawer o weithgareddau eraill i’w haelodau ac roedd popeth yn cael ei wneud yn y Gymraeg gan helpu i ddiogelu’r iaith a’i thraddodiadau. | ||
| Mae tair ysgol wedi’u nodi ar y map (Dau wedi’u nodi gyda Sch.). Erbyn cyfnod y map yma roedd pob plentyn yn derbyn addysg, hyd yn oed plant y teuluoedd tlotaf. Roedd hyn yn meddwl fod ganddynt fwy o gyfle i wneud pob math o bethau pan fyddent yn tyfu. Roedd y plant oedd â’r gallu mwyaf yn mynychu’r Ysgol Sirol ac o bosib yn symud ymlaen i wneud gwaith proffesiynol. Yn 1902, roedd yna deuluoedd o hyd nad oedd yn gallu fforddio gadael i’w plant aros yn yr ysgol am gyfnod mor hir. | ||
| Cymharwch gyda map o’r dref yn 1836.. | 
|  
       | 
  ||