Llanfair 
      Caereinion 
      Mapiau Fictoriaidd  
| Llanerfyl yn 1902 | ||
|  
       Mae’r map yma yn rhan o fap a oedd ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1902. Mae mwy o fanylion o’r dref ar y map yma na map 1836, a gallwn weld mwy o’r pentref ei hunan a rhai o’r newidiadau a ddigwyddodd yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.  | 
    ||
![]()  | 
  ||
| Ar ddiwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria cymuned fach wledig yw’r pentref o hyd gydag eglwys, tafarn, melin yd ac efail. Nid oes yna unrhyw newidiadau mawr sy’n amlwg i’w gweld ar y map. | ||
| Fel pob pentref arall yng Nghymru mwy neu lai, mae yna ysgol yn Llanerfyl nawr. Roedd hyn yn bwysig iawn i blant y pentrefwyr cyffredin oedd yn gweithio ar y tir. Roedd yr ysgol newydd yma yn gallu cynnig mwy o gyfleoedd i’r plant yma pan fyddent yn tyfu. Yn hytrach na chael dyfodol o ddim ond gweithio ar y tir, roedd plant yn cael digon o addysg i’w galluogi i wneud rhywbeth gwahanol gyda’u bywydau. | ||
| Cymharwch gyda map o Lanerfyl yn 1836.. | 
|  
       | 
  ||