Llanfair
Caereinion
Mapiau Fictoriaidd
Llanerfyl yn 1836 | ||
Mae’r map a welwch chi yma yn ddarn
o fap Arolwg Ordnans sydd wedi’i wneud
yn fwy ar raddfa 1 fodfedd = 1 filltir yn 1836. Er nad oes llawer o fanylion
mae’n rhoi syniad i ni o’r ardal ar ddechrau cyfnod Fictoria. |
||
Gallwch weld o’r map fod pentref Llanerfyl yn fach iawn ar yr adeg yma a dim ond eglwys a chlwstwr bach o dai oedd yno. | ||
Mewn ardal fynyddig fel yma roedd y bobl yn byw mewn ffermydd bychain a bythynnod oedd ar wasgar. Byddai fwy neu lai pob un o’r bobl leol yn gweithio ar y tir mewn rhyw ffordd neu’n darparu gwasanaethau i ffermwyr megis y melinydd lleol (sylwch ar y felin wedi’i nodi Melin fach) neu gofaint. | ||
Cymharwch gyda map o Lanerfyl yn 1902.. |