Llanfair
Caereinion
Mapiau Fictoriaidd
Castell Caereinion yn 1902 | ||
Mae’r map yma yn rhan o fap a oedd ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1902. Mae mwy o fanylion o’r dref ar y map yma na map 1836, a gallwn weld mwy o’r pentref ei hunan a rhai o’r newidiadau a ddigwyddodd yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria. |
||
Mae’r pentref bach yma wedi tyfu tipyn ond bach ydyw o hyd. Efallai mau’r newid pwysicaf yw ysgol y pentref. Erbyn diwedd teyrnasiad Fictoria roedd pob plentyn yn y plwyf yn mynd i’r ysgol, hyd yn oed y plant o’r teuluoedd tlotaf. Roedd hyn yn meddwl y byddai ganddynt fwy o gyfleoedd pan fyddent wedi tyfu. Yn hytrach na chael dim dewis o fywyd yn unrhyw le arall heblaw am weithio ar y tir, roedd addysg yn rhoi’r cyfle iddynt wneud rhywbeth gwahanol gyda’u bywydau. | ||
Cymharwch gyda map o Gastell Gaereinion yn 1836.. |