Llanfair
Caereinion
Mapiau Fictoriaidd
| Castell Caereinion yn 1836 | ||
|
The Mae’r map yma yn ddarn o fap
Arolwg Ordnans sydd wedi’i wneud
yn fwy ar raddfa 1 modfedd = 1 filltir yn 1836. Er nad oes llawer o fanylion
arno mae’n rhoi syniad i ni o sut roedd yr ardal yn edrych ar ddechrau
oes Fictoria. |
||
![]() |
||
| Sylwch cyn lleied o dai sydd ar y map. Mae’n amlwg mai ychydig iawn o bobl sy’n byw yn yr ardal wledig yma. (Edrychwch ar y graff poblogaeth ar gyfer y plwyf i weld faint oedd y boblogaeth yn ystod oes Fictoria). | ||
| Gallwch weld Neuadd Dolarddyn a’r gerddi ar y map. Mae’r gerddi’n fwy na maint y pentref cyfan. Mae hyn yn rhoi rhywfath o syniad i ni o’r gwahaniaeth enfawr mewn cyfoeth yn ystod oes Fictoria rhwng y tirfeddianwyr a’r teuluoedd oedd yn gweithio iddynt. | ||
|
Mae’r tollty wedi’i farcio gyda T.G. ar y map. Dyma lle y byddai unrhyw un oedd yn teithio gydag anifail yn gorfod talu i ddefnyddio’r rhan nesaf o’r ffordd. |
|
|
||