Llandrindod
Mapiau Fictoriaidd
  Llanllyr yn 1840  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig ar fap y degwm ar gyfer plwyfi Llanllyr ac mae’n rhoi syniad da i ni ynglyn â lle oedd y tai, ffermydd a chaeau ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

 

MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb

map of Llanyre in 1840
Sylwch fod rhan o’r gymuned sy’n ymestyn o’r eglwys tua’r Gogledd yn dir comin agored, ac mai dim ond llwybr yw’r ffordd sy’n mynd i’r Gogledd i Lanfihangel Helygan a Chaerfagu. Yn debyg iawn hefyd mae’r ardal sydd i’r De o’r map hefyd yn dir comin agored.

Bythynnod bychain gyda chaeau bychain neu erddi sydd ar y tir comin yma, fel ynysoedd yn y caeau. Mae Cagebrook a Sunnybank yn ddau o’r rhain.

Roedd traddodiad ar draws Canolbarth Cymru yn nodi, pe bai rhywun yn adeiladu ty ar dir comin dros nos ac â than yn llosgi yno erbyn y bore roeddynt yn gallu ei hawlio yn eiddo i’w hunain.

 

Yr enw a roddwyd ar y tai yma oedd Tai un nos. Yn fwy na thebyg doedd yna ddim cyfraith oedd yn caniatáu hyn, ond roedd angen gweithwyr ar ffermwyr lleol a thirfeddianwyr i weithio ar y tir ac felly roeddynt yn dueddol o droi llygad ddall a’i anwybyddu.
.

  Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1902..  
  Yn ôl i ddewislen mapiau Llandrindod
Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod