Llandrindod
Yfed y dwr
  Dwr oer ym mhob ystafell !  
 

Yn ogystal â gwestai mawr gyda’r cyfleusterau diweddaraf ynddynt oedd i’w cael yn Llandrindod pan oedd ar ei phrysuraf yn ystod cyfnod Fictoria, roedd yna hefyd 'fflatiau wedi’u dodrefnu' ar gyfer ymwelwyr. Roedd y rhain yn debyg iawn i’r llefydd 'Gwely a Brecwast' neu lefydd G&B a geir mewn ardaloedd twristiaeth heddiw.
Mae’r ffotograff a welwch chi yma yn dangos rhai o’r gwesteion oedd wedi’u gwisgo’n ffurfiol iawn y tu allan i 'Park House Boarding Establishment', tua 1895 yn fwy na thebyg.
Dim trowsusau byr a chapiau pêl fas yn fan yma !

 
Park House,
Llandrindod,

tua 1895

 

 

Roedd perchnogion llawer o westai bychain yn honni yn eu hysbysebion eu bod yn agos at y ffynhonnau mwynol neu’r orsaf reilffordd. Neu, fel yr un a ddangosir i’r dde o’r ffotograff yma, yn y canol rhwng y ddau ! Gallwch weld enghraifft arall o ba mor agos yw gorsaf y rheilffordd ar y dudalen nesaf yn yr adran yma.

Mae’n anhebygol y byddai rhai o’r nodweddion a hysbysebir yn ystod cyfnod Fictoria yn llwyddo i ddenu pobl i fynd ar wyliau y dyddiau yma. Beth am "Well ventilated rooms" (sy’n golygu oer a drafftiog !) neu "Piano. Hot and Cold Baths" !
Rhan arall o’r arferion llym iawn a gafwyd oedd y baddonau oer yr oedd llawer o’r rheini oedd yn mynd i 'yfed y dwr' yn mynnu eu cael. Dim diolch !
.

 
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod