Llandrindod
Yfed y dwr
  Mynd ar y trên i yfed y dwr  
 

Wedi i linell reilffordd gyntaf Rheilffordd Canolbarth Cymru gyrraedd Llandrindod yn 1865 daeth yn bosibl i lawer iawn mwy o ymwelwyr ddod, i aros, ac i flasu’r dwr mwynol.
Adeiladwyd gwestai a thai lletya er mwyn darparu llety iddynt, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn awyddus i hysbysebu pa mor agos yr oeddynt i’r orsaf reilffordd ac i’r ffynhonnau mwynol.
Mae’r enghraifft a welwch chi yma braidd yn gamarweiniol, oherwydd roedd Gwesty’r Belmont mewn gwirionedd yn Ffordd Tremont, sef pen pellaf Station Crescent o’r orsaf !

 
‘Belmont Lodging House’ a Gwesty’r ‘London House’
tua 1890
Hotel advertisement, 1890
Mae hwn wedi dod o hysbyseb mewn arweinlyfr i ymwelwyr â’r dref a gyhoeddwyd tua 1890. Mae’n dangos pa mor bwysig oedd y rheilffyrdd i’r gwestai a’r tai lletya yn ystod cyfnod Fictoria. Ni fyddai llawer o westai heddiw eisiau dangos fod yna orsaf reilffordd mor agos â hynny atynt !

 

 

Roedd y llinell reilffordd newydd yn ei gwneud yn llawer iawn haws i nifer fawr o bobl ymweld â chanolbarth Cymru, yn gyntaf o’r ardaloedd diwydiannol oedd yn tyfu yng ngogledd Lloegr a chanolbarth Lloegr, ar ar ôl 1868 o Dde Cymru.
Mae’r darlun hyfryd a welwch chi yma (er nad yw’n gywir iawn !) wedi dod o 'Evans's Illustrated Guide to Llandrindod Wells - Price ninepence', a gyhoeddwyd tua 1890. Mae’r hysbyseb yn cynnwys Gorsaf Llandrindod fel un o’r atyniadau a nodwyd gan y tai lletya a gafodd ei "conducted by" Mrs a Miss Bufton ar y pryd. Roedd eu llety yn "Close to, and conspicuous from, the Railway Station". Ond nid oedd mor agos ag yr oeddynt yn ei honni !
.

 
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod