Llandrindod
Mapiau Fictoriaidd
Llansantffraid-yn-Elfael yn 1902 | ||
Mae’r map a welwch chi yma yn ddarn o fap a wnaed ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1902. Er bod y gymuned yma’n edrych yn debyg iawn i fel ag yr oedd yn 1839 mae yna rai newidiadau wedi digwydd yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria. |
||
|
1. Yn 1837 roedd y cae mawr yma’n dri chae ar wahân. Yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria cawsant eu newid yn un cae mawr. | ||
2. Yn 1837 roedd yna fferm fechan o’r enw ‘Upper Landre’ yn y fan yma. Rhywbryd yn ystod oes Fictoria cafodd y fferm ei gadael gan droi’n adfail. Bellach nid oes yna unrhyw beth wedi’i nodi ar y map yn y fan yma. | ||
3. Bellach mae yna ysgol yn y plwyf. Roedd hyn yn golygu fod y plant lleol yn cael addysg a hefyd posibiliadau newydd wedi iddynt dyfu. |
||
Cymharwch gyda’r map o Lansantffraid yn 1837.. | ||