Llandrindod
Mapiau Fictoriaidd
  Llansantffraid-yn-Elfael yn 1837  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig ar fap y degwm ar gyfer plwyf Llansantffraid-yn-Elfael, ac mae’n rhoi syniad da i ni o lle yr oedd y tai, ffermydd a chaeau ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

 

MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb
 

Yn debyg iawn i lawer o gymunedau yn Sir Faesyfed, nid pentref yw Llansantffraid ond yn hytrach dyrnaid o ffermydd a thyddynnod gyda dim ond un neu ddau o dai wrth yr eglwys. Gan fod yr eglwys ar dir uchel nid yw’r tir oddi amgylch iddo wedi’i gau ond mae’n dir comin agored.
Er mai poblogaeth wasgaredig oedd yn y plwyf, yn 1841 roedd ganddo groser, meddyg, gwëydd, gofaint, crydd a rhywun oedd yn gwnïo ymysg rhai eraill.

 
  Cymharwch gyda’r map o Lansantffraid yn 1902..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llandrindod

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod