Llandrindod
Yfed y dwr
  Dewch i ni adeiladu’r dref yn y fan yma  
 

Y rhan fwyaf rhyfeddol o hanes Llandrindod yw bod y dref wedi’i hadeiladu yng nghanol tir comin gwyllt a llwm a hynny mewn amser byr iawn.

 
Llandrindod yn 1833
(dde pell)

Fel y gallwch weld yn y darn o fap a welwch chi yma, ac o’r tudalennau sydd yn y rhan yma o’r wefan, dim ond ychydig o ffermdai anghysbell ac adeiladau eraill oedd yn yr ardal yn 1833.
Ond yn ddiweddarach roedd yna ddau ddatblygiad sydd â chysylltiad rhyngddynt a wnaeth wahaniaeth mawr iawn. Roedd Cau tir agored Comin Llandrindod yn 1862, yn bennaf er lles y tirfeddianwyr cyfoethog lleol, yn bwysig iawn. Dim ond tair blynedd yn ddiweddarach agorwyd y rheilffordd ac fe wnaethant weld y bosibilrwydd o wneud arian wrth ddatblygu’r ardal yn gyflym, gan ei bod bellach yn llawer iawn haws i’w chyrraedd.

Part of 1833 map
Gorsaf Llandrindod

Llandrindod stationAgorwyd rhan gyntaf Llinell Calon Cymru o Dref-y-Clawdd i Landrindod yn 1865, a daeth y gwaith i ben ar y llinell rhwng Yr Amwythig ac Abertawe yn 1868. Roedd hyn yn ei gwneud yn haws i lawer iawn o ymwelwyr ddod i Landrindod o ardaloedd diwydiannol gogledd Lloegr, o ganol Lloegr ac o Dde Cymru.
Gan fod y tir comin garw bellach wedi’i droi’n gaeau, a’r posibilrwydd o nifer fawr o ymwelwyr yn dod i 'yfed y dwr' roedd hyn yn golygu fod yr ardal yn mynd i newid yn aruthrol.

 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod