Llandrindod
Mapiau Fictoriaidd
  Llandrindod yn 1833  
 

Mae’r ddelwedd yma wedi dod o fap Arolwg Ordnans a fesurwyd yn 1833. Mae’n rhoi darlun gwych i ni o’r dirwedd o amgylch y safle yn Llandrindod, union ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Y peth cyntaf y gwnewch chi sylwi arno yw nad oes yna Landrindod! Nid oedd y dref wedi’i hadeiladu eto.

 
 
  1. Rhan Ogleddol y dref nawr oedd yr ardal wlyb a gwyntog o’r enw Comin Cefnllys. Yr unig adeilad a nodir ar y map ar y comin yma yw Llanerch-y-dirion, adeilad rydym ni yn ei adnabod heddiw fel y Llanerch Inn.  
 

2. Rhan Ddeheuol y dref oedd lle roedd Comin Llandrindod. Unwaith eto dyma ardal wlyb agored oedd yn cael ei phori.

 
  3. Er nad oedd y dref yn bodoli yn 1833, roedd pobl wedi bod yn ymweld â’r ardal er mwyn yfed y dwr am beth amser. Roedd yr adeiladau a nodir gyda 3 (Rock House, Trefonen, Gwesty’r ‘Pump House’ a neuadd Llandrindod) yn cynnig lle i ymwelwyr gael aros.  
  Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1887.  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llandrindod

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod