Llandrindod
Mapiau Fictoriaidd
  Llandrindod yn 1887  
 

The Mae’r map a welwch chi yma yn rhan o fap sydd wedi’i fesur ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1887. Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1833 i weld rhai o’r newidiadau mawr a ddigwyddodd yn ystod cyfnod Fictoria.
Y peth cyntaf welwch chi yw bod tref newydd Llandrindod wedi’i hadeiladu ar beth oedd yn dir comin agored cyn hynny.

 

  Yn rhedeg i lawr trwy ganol y map y mae’r llinell reilffordd newydd, a dyma a’i gwnaeth yn bosibl i dref newydd ddatblygu yma. Daeth llawer iawn o ymwelwyr i mewn ar y trenau er mwyn yfed y dwr ac adeiladwyd llawer o westai a thai llety ar eu cyfer.  
 

1. Ym mhen gogleddol y dref newydd mae yna dai newydd lle y mae’r ffordd yn croesi’r rheilffordd ac mae yna adeilad newydd sef yr Ysgol Genedlaethol wedi’i adeiladu yno. Ar yr adeg yma roedd yna fwlch mawr rhwng y lle croesi yma a chanol y dref.

 
  2. Ychydig i’r de o Westy’r ‘Pump House’ mae llyn newydd wedi’i gloddio allan o’r tir corslyd o amgylch y gwesty ar gyfer mwynhad ymwelwyr â’r dref.  
  3. Mae ‘Temple Gardens’ yn rhan o’r tir comin agored o hyd. Pe baech yn cerdded o Westy’r ‘Bridge’ i’r Ridgebourne yn 1887 byddech yn gorfod cerdded ar draws tir comin a hynny heb dai yno o gwbl.  
  4. . 4. I lawr yn y caeau ger yr afon gallwch weld cwrs rasio. Dyma ddatblygiad arall oedd yn ceisio denu ymwelwyr  
Wrth i’r Rheilffordd ddod i’r dref yn yr 1860au pan gafodd y tir comin ei gau, gallwn weld fod yna lawer iawn o waith wedi’i wneud mewn cyfnod byr. Serch hynny, mae dal yn wahanol iawn i’r Llandrindod yr ydym yn ei hadnabod heddiw. Nid oes yna adeiladau ar ochr ddwyreiniol Stryd Middleton, ac roedd yna gae lle mae adeilad mawr Swyddfa’r Post heddiw!
.
 
  Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1833..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llandrindod

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod