Llandrindod
Bywyd ysgol
  Dim ysgol – prysur yn gofalu am y gwartheg  
  Gallwch ddysgu cryn dipyn ynglyn â bywyd bob dydd y gymuned gyfan o Lyfrau Cofnod cynnar ysgolion, nid dim ond ynglyn â’r ysgol ei hunan. Dyma enghraifft dda o Ysgol Genedlaethol Llanllyr yn y Bont-Newydd-ar-wy yn 1879.
Roedd yr athro yma yn ysgrifennu ynglyn â faint oedd yn mynychu’r ysgol...
 
21ain Chwefror
1879
School diary entry "It has been interfered with to a small extent by fairs at Builth and Rhayader from which no amount of work or persuasion will wean certain families. These are generally "Drinking" families, where the children are required to stand by the cattle all day while the parents "have business" inside. The poor children, who generally get a thorough wetting while parents are getting little, are not in a fit state for school the rest of the week and often longer".
 

Yn ystod cyfnod Fictoria roedd y rhan fwyaf o drefi marchnad yn cynnal y marchnadoedd da byw rheolaidd yn un o’r strydoedd mawr, ac roedd yn rhaid cadw’r gwartheg mewn grwpiau ar wahân. Yn nes ymlaen daeth marchnadoedd gwartheg go iawn gyda Boys minding cattlechorlannau ar gyfer y stoc, ac mae’r rhan fwyaf o Lyfrau Cofnod ysgol yn sôn am blant yn absennol ar ddyddiau marchnad.
Mae llawer o hen ffotograffau o farchnadoedd da byw ar strydoedd yn dango plant yn gofalu am y gwartheg – tra roedd y ffermwyr yn "doing business", neu’n cael ychydig o ddiodydd – yn un o’r tafarndai lleol. Roedd y rhain bob amser yn brysur iawn ar ddiwrnodau marchnad ! Gallwch weld nad oedd y pennaeth yn meddwl rhyw lawer o’r "teuluoedd yfed" lleol oedd yn cadw plant allan ym mhob tywydd pan dylent fod yn yr ysgol.

Ewch i ddewislen ysgolion Llandrindod

 

Bechgyn yn gofalu am wartheg Gallwch weld
hen ffotograffau
o farchnadoedd stryd ar dudalennau eraill y wefan yma. Defnyddiwch y cysylltiadau yma i weld enghreifftiau yn Llanfair-ym-Muallt a’r Drenewydd.
Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod