Llanfair ym Muallt
yn yr oes Fictoria
  Pwy sy am brynu buwch?  
 

Llun arall sydd yn ei gwneud hi'n haws deall pam fod arwydd y dref yn llun o darw gyda chyrn mawr. Mae'r arwydd ar Neuadd y Farchnad.
Yn y llun hwn gallwch weld ffair wartheg yn y Stryd Fawr yn Llanfair-ym-Muallt . Mae'n debyg iddo gael ei dynnu ar yr un pryd â'r ffotograff sydd ar dudalen arall yn y gyfres hon. Mae'n dangos yr olygfa wrth ichi edrych tua'r gorllewin ar hyd y Stryd Fawr, gyda Stryd y Gorllewin i'w gweld yn y cefndir.

 
Stryd Fawr,
Llanfair-ym-Muallt
c1905
Cattle fair c1905
  Mae rhai manylion diddorol i'w gweld yn y llun gwreiddiol. Yn y casgliad o bobl sy ar y gwaelod ar yr ochr dde o'r llun mae yna ddau ddyn mewn iwnifform, mae'n debyg mai swyddogion o orsaf y rheilffordd ar draws y bont yn Llanelwedd oeddent, ac wedi dod i'r dref i weld y prysurdeb ar ddiwrnod marchnad.
Mae'r bachgen mewn dillad gwyn sy'n sefyll o'u blaen yn edrych fel petái wedi bod yn gweithio i siopwr lleol- bachgen yn gweithio i'r cigydd efallai. Y geiriau ar yr arwydd uwchben y siop ddillad yw "Hearse for Hire", sef hers i'w llogi , byddai'n ddefnyddiol iawn i gludo cyrff o amgylch yr ardal.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen lluniau Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt